Rhif y Ddeiseb: P-05-908

Teitl y ddeiseb: CF3 yn erbyn y Llosgydd

Geiriad y ddeiseb:

Mae cynlluniau i adeiladu llosgydd newydd yn CF3 ar Newlands Road, Gwynllŵg, Caerdydd. Mae hyn yn agos iawn i gartrefi ac ysgolion. Er enghraifft, nid yw ond 500 metr i ffwrdd o Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae llawer o breswylfeydd ac ysgolion eraill yn CF3 hefyd ymhell o fewn hanner milltir iddo.

 

Bydd y llosgydd arfaethedig yn llosgi 200,000 tunnell o wastraff diwydiannol y flwyddyn a bydd yn gweithio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Y bwriad yw ei adeiladu mor gynnar â 2020/21.

 

Caiff y gwastraff diwydiannol sydd i'w losgi ei gludo i'r safle arfaethedig ar 80 o lorïau bob dydd, gyda phob un yn cario 20 tunnell o wastraff. Bydd hefyd angen cludo ymaith y lludw gwenwynig y bydd y llosgydd yn ei greu.

 

Bydd y safle yr un maint â 1.5 cae rygbi, a bydd y prif adeilad dros 40 metr o uchder; bydd corn y simnai dros 70 metr o uchder. Rydym o'r farn nad yw trigolion CF3 am gael llosgydd yn eu cymuned.

 

Credwn y bydd yn creu sŵn, llygredd aer a thraffig, ac na fydd yn dda i iechyd pobl sy'n byw yng nghymuned CF3.


1.  Cefndir

Datblygiad arfaethedig

MaePŵer Bio Môr Hafren yn cynnig adeiladu Cyfleuster Adfer Ynni ar Newlands Road, Caerdydd. Fferm Newlands yw'r eiddo preswyl agosaf ac mae wedi’i lleoli 140m o’r safle arfaethedig. Mae’r ystâd breswyl agosaf oddeutu 500m i ogledd ddwyrain y safle. Mae Eastern High School, Ysgol Gynradd Trowbridge ac Ysgol Gynradd St John Lloyd RC i gyd o fewn cilomedr i'r safle arfaethedig. Byddai'r cyfleuster wedi'i leoli yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Lefelau Gwent – Tredelerch a Peterstone.

Mae'r cynigion ar gyfer cyfleuster ynni-o-wastraff gwerth £150m fyddai'n llosgi 200,000 tunnell o wastraff masnachol a diwydiannol bob blwyddyn. Byddai hynny’n cynhyrchu 15 megawat o drydan, digon o ynni i bweru oddeutu 30,000 o gartrefi bob blwyddyn.

Pan fydd yn gweithredu, amcangyfrifir y byddai 116 o symudiadau cerbydau bob dydd rhwng 6 y bore a 6 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (36 o geir ac 80 o lorïau). Byddai'r llosgydd ar waith 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Disgwylir i’r cyfleuster 1.67 hectar bara rhwng 25 a 30 o flynyddoedd. Uchder yr adeilad ei hun fyddai 47 metr, gyda simnai'n cyrraedd uchder o 70 metr. Yn ôl y cynlluniau, byddai’n cymryd dwy flynedd i adeiladu’r prosiect, ac amcangyfrifir y byddai 40 o swyddi amser llawn yno pan fyddai’n barod.

 

Y broses gynllunio

Mae'r cynigion yn y cam cyn ymgeisio ar hyn o bryd. Daeth y rownd gyntaf (PDF, 131KB) o ymgynghoriadau cyhoeddus i ben ar 29 Tachwedd 2019.

Gan y byddai'r cyfleuster arfaethedig yn cynhyrchu mwy na 10 megawat o drydan, mae wedi'i ddynodi'n Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. O ganlyniad, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y penderfyniad cynllunio, yn hytrach na'r Awdurdod Cynllunio Lleol, sef Cyngor Caerdydd.

Byddai’n rhaid i’r cyfleuster gael trwydded amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a bydd angen i Ddatganiad Amgylcheddol gyd-fynd â'r cais cynllunio. Bydd y Datganiad Amgylcheddol yn cynnwys asesiad o effeithiau'r cyfleuster arfaethedig o ran meysydd a ganlyn: ansawdd aer; sŵn a dirgryniad; ecoleg; effaith ar y tirwedd ac effaith weledol; trafnidiaeth; a chanlyniadau llifogydd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gynllunio ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ym mhapur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil, “Y Gyfres Cynllunio: 14 – Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol”. Mae Môr Hafren Bio Power yn bwriadu cyhoeddi ac ymgynghori (PDF, 131KB) ar y cais cynllunio drafft a'r Datganiad Amgylcheddol cysylltiedig yn ystod y misoedd nesaf

 

Y ddadl ynni-o-wastraff.

Fel rheol, mae cyfleusterau ynni-o-wastraff yn llosgi gwastraff  a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gall y broses losgi leihau cyfaint y gwastraff hyd at 90%. Gellir prosesu'r lludw gwaelodol a gynhyrchir yn y llosgydd a’i ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad (PDF, 1.2MB) gallai lludw gwaelod fod yn wenwynig hyd yn oed ar ôl cael ei drin, a chael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod yr allyriadau o losgyddion ynni-o-wastraff – gan gynnwys metelau trymion, deuocsinau a deunydd gronynnol – yn peryglu iechyd pobl. Mae Briff Technoleg Rheoli Gwastraff gan Defra (PDF, 1.2MB) yn nodi bod cyfleusterau modern yn gallu hidlo nwyon corn simnai cyn eu rhyddhau, gan gael gwared ar y llygryddion hyn. Mae'r broses hon yn arwain at weddillion Rheoli Llygredd Aer, sy'n cael eu hystyried fel bod yn ddeunydd peryglus.

Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr gomisiynu cyfres o astudiaethau i effeithiau llosgyddion gwastraff bwrdeistrefol ar iechyd. Ni ddaeth yr astudiaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth bod mwy o risg o farwolaethau babanod yn achos plant sy'n byw yn agos at losgyddion gwastraff bwrdeistrefol. Dyma safbwynt Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar losgyddion gwastraff bwrdeistrefol:

… modern, well ran and regulated municipal waste incinerators are not a significant risk to public health. While it is not possible to rule out adverse health effects from these incinerators completely, any potential effect for people living close by is likely to be very small.

Mae dadansoddiad gan y grŵp ymgyrchu, UK Without Incineration Network (UKWIN), yn awgrymu bod faint o garbon deuocsid a gynhyrchir fesul kW yr awr o drydan a gynhyrchir mewn cyfleusterau ynni-o-wastraff yn fwy nag ydyw mewn gorsafoedd pŵer nwy naturiol, a dim ond ychydig yn llai nag ydyw mewn gorsafoedd pŵer glo.

Fodd bynnag, mae Ailgylchu dros Gymru yn nodi y gall ffatri gonfensiynol ynni-o-wastraff leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr rhwng 32 y cant a 41 y cant o'i gymharu ag anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi. Y rheswm dros hynny yw bod safleoedd tirlenwi yn rhyddhau methan yn ogystal â llygryddion amgylcheddol eraill fel trwytholch.

Mae ymgyrchwyr wedi awgrymu y gall llosgyddion gynnal cymhellion ar gyfer cynhyrch gwastraff gan fod angen cyflenwad parhaus o wastraff arnyn nhw trwy gydol eu hoes. Mae’r Almaen wedi dechrau mewnforio gwastraff er mwyn cynnal ei llosgyddion ar ôl profi cynnydd yn ei chyfradd ailgylchu.

 

2.  Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff

Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a gyhoeddwyd yn 2010, yn nodi strategaeth gyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli gwastraff. Erbyn 2050, nod Cymru yw ailddefnyddio neu ailgylchu pob gwastraff, heb yr angen am unrhyw safleoedd tirlenwi nac adfer ynni. O ganlyniad, yn ôl y strategaeth:

Golyga hyn y bydd llawer llai o angen am gyfleusterau trin gwastraff gweddilliol fel ffatrïoedd ynni o wastraff a bydd y nifer a/neu’r cynhwysedd gofynnol yn gostwng yn gyson o 2025 i 2050.

Mae'r strategaeth yn ymgorffori'r hierarchaeth wastraff o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE. Yn yr hierarchaeth, mae adferiad ynni-o-wastraff yn uwch na thirlenwi fel opsiwn rheoli, er ei fod yn eistedd islaw atal, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.

Mae'r strategaeth yn cydnabod rôl ynni-o-wastraff yn y cynlluniau tymor byr i’r tymor canolig ar gyfer rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy. Mae'n gosod targed ar gyfer ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2025, gyda'r 30 y cant sy'n weddill yn cael ei anfon i gyfleusterau ynni-o-wastraff effeithlonrwydd uchel.

 

Ymgynghoriad economi gylchol

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar strategaeth economi gylchol newydd.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu i sicrhau bod deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn cael eu gwahardd rhag adfer ynni neu rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Dywed hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â Llywodraeth y DU o ran a fyddai treth ar losgi yn ddymunol er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 3 Ebrill 2020.

 

Llythyr y Gweinidog at Gadeirydd y Pwyllgor

Ysgrifennodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, at Gadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad ar 26 Chwefror.

Nododd y byddai'r cyfleuster arfaethedig yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. O ganlyniad, byddai'r cais cynllunio yn cael ei wneud yn uniongyrchol iddi hi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am benderfyniadau cynllunio. Yn wyneb hynny, gwrthododd wneud sylw ar y ddeiseb oherwydd gallai gwneud hynny ragfarnu unrhyw benderfyniad ar gynigion yn y dyfodol.

 

3.  Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Mehefin 2019 galwodd Russell George AC ar Lywodraeth Cymru i osod moratoriwm ar bob llosgydd newydd tra cynhelir adolygiad cyn datblygu strategaeth wastraff genedlaethol newydd: 

Ar ôl sylwi ar ddiffyg cynllun cenedlaethol fy hun, rwy'n sicr yn teimlo y dylid rhoi moratoriwm ar bob cais am losgyddion a chynnal adolygiad llawn a manwl cyn i gynllun gael ei ddatblygu.

Wrth ymateb, ni wnaeth Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, fynd i’r afael â’r cais am foratoriwm ond gwnaeth sylwadau ar strategaeth “Tuag at Ddyfodol Ddiwastraff” Llywodraeth Cymru:  

Mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn cynnal adolygiad o'n strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o ailedrych ar yr economi gylchol yng Nghymru. […] Yn sicr, bydd gwaredu unrhyw wastraff diwedd oes yn rhan o'r ailystyriaeth honno.  Yn amlwg, ni fyddai gan economi gylchol unrhyw wastraff ynddi ac felly byddai llai a llai o angen gwaredu gwastraff terfynol o'r math hwnnw Felly, byddwn yn ailedrych ar ein polisi 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o weithredu cymaint o economi gylchol yng Nghymru ag sy'n bosibl.

Gwnaeth Mike Hedges AC ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2019, gan alw ar Lywodraeth Cymru i wahardd llosgyddion newydd ar gyfer gwastraff anfeddygol: 

A wnaiff y Gweinidog, ar y cyd â'i chyd-Weinidogion, ystyried y canlynol: gwahardd llosgyddion newydd heblaw am losgyddion meddygol i ymdrin â phathogenau […] 

Ymatebodd Lesley Griffiths,  Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, drwy ddweud: 

Fe fyddaf i'n bendant yn hapus iawn i gael y trafodaethau hynny gydag ystod o gyd-Weinidogion. Yn amlwg, mae ansawdd aer yn fater ar draws y Llywodraeth, ac yn sicr fe gaiff ei drafod yn y Cabinet. Ond byddaf i'n edrych ar yr holl faterion hynny ac yn ysgrifennu atoch chi ymhellach.

Gosododd Russel George AC gwestiwn ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2019, yn gofyn am rôl llosgyddion yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi “Diwastraff”.

Wrth ymateb dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Chymunedau Lleol:

The Welsh Government’s preferred solution for treating waste which cannot be recycled is to utilise high efficiency energy from waste facilities, as this also prevents this material from becoming a problem elsewhere. […]

Energy recovery from waste has a role to play for non-recyclable waste, provided the facilities meet development planning and environmental permitting requirements.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.